
‘Gall yr un gwir wyddonydd ymhel â
chrefydd.’ ‘Wir?’
Hefin Jones 2024-25 Darlith Edwin Stephen Griffith

‘Gall yr un gwir wyddonydd ymhel â chrefydd.’ ‘Wir?’
Darlith a thrafodaeth ar ddilyn y ffydd Gristnogol tra’n ymwneud ag ymchwil a darganfyddiadau gwyddonol.
Dr Hefin Jones
Dydd Gwener 14eg Mawrth, 2025
​
10:00 - 12:30​ Darlith a thrafodaeth yn Gymraeg
​
14:00 - 16:00 Darlith a thrafodaeth yn Saesneg
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Mae'r ddarlith hon yn rhad ac am ddim. Parcio ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
​
PLEASE NOTE: This lecture will not be available as a recording for the general public;
but attendance either in person or online is possible.
Ar adegau gall Coleg y Bedyddwyr Caerdydd ffrydio'n fyw a/neu recordio fideo o'i ddarlithoedd; os na allwch ddod yn bersonol ond bod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan fel hyn, rhowch wybod i ni. Sylwch na fydd y ddolen hon yn gweithio o 2yh y diwrnod cyn y digwyddiad. Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â events@cbc.cymru
Wedi’i eni ym Mhencader yng Ngorllewin Cymru cafodd Hefin Jones ei addysg yn Ysgol Gynradd Pencader, ac Ysgol Ramadeg Llandysul, cyn graddio mewn Sŵoleg o Goleg y Brenin, Prifysgol Llundain ac ennill ei ddoethuriaeth o Goleg Imperial, Prifysgol Llundain. Tra yng Ngholeg y Brenin enillodd Ddiploma AKC o'r Adran Diwinyddiaeth. Ar ôl tair blynedd yn gweithio i’r Cyngor Ymchwil Amaethyddol a Bwydydd yn Wellesbourne, Swydd Warwick, dychwelodd i Goleg Imperial, fel Cymrawd Ymchwil lle bu’n arwain Prosiect rhyngwladol ac arloesol yr Ecotron yn ymchwilio i effeithiau ecolegol newid hinsawdd ar ecosystemau tirol. Yn 2000 symudodd i Brifysgol Caerdydd lle mae Bellach yn Gyfarwyddwr Addysg Israddedig yn Ysgol y Biowyddorau. Mae wedi chwarae rhan fel Gwyddonydd Ymgynghorol i Ganolfan Ecoleg Prifysgol Kyoto, Japan, ac Aelod Rhyngwladol o Banel Rheoli y Phytotron ym Mhrifysgol Duke, UDA. Ar hyn o bryd mae Hefin yn olygydd Global Change Biology, cyfnodolyn rhyngwladol blaenllaw ym maes newid hinsawdd. Mae'n Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol Fiolegol ac yn Gymrawd Anrhydeddus o'r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol.
Yn ystod ei yrfa mae Hefin wedi bod yn uwch swyddog o Gymdeithas Ecolegol Prydain, ac yn aelod o Fwrdd Ymchwil Sefydliad Gwyddonol Ewrop. Yng Nghymru bu'n Gadeirydd y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol, Cymrodorion Caerdydd ac y mae’n gyfrannwr cyson i'r cyfryngau Cymraeg. Gwasanaethodd Hefin am bedair blynedd fel Ysgrifennydd Adran Ieuenctid Annibynwyr y Byd, bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac ar wahanol adegau yn Ysgrifennydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb ac yn Gadeirydd ei Fwrdd Hyfforddi. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd. Fe’i anrhydeddwyd ag aelodaeth o Orsedd Cymru yn 2007 a bu’n Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (2011 – 22). Cyflwynwyd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg iddo yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Yn gweithio gyda’r Dr Noel Davies cyhoeddod y gyfrol Cristnogaeth a Gwyddoniaeth gan Wasg Prifysgol Cymru.
